Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (258) |
Datganiad y Llywydd
Cydymdeimlodd y Llywydd ar ran y Cynulliad â Mick Antoniw AC yn ei brofedigaeth o golli ei wraig.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 14.15
William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fentrau i fynd i’r afael â’r nifer frawychus o danau glaswellt a gaiff eu cynnau yn fwriadol? EAQ(4)0548(PS)
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.30
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y diweddaraf am weithredu Dedd Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Dechreuodd yr eitem am 14.36
4 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Strategaeth Digidol yn Gyntaf
Dechreuodd yr eitem am 15.07
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Mannau Glanach, Mwy Diogel ar gyfer ein Cymunedau
Dechreuodd yr eitem am 15.26
6 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Trosglwyddo Asedau Cymunedol yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 16.02
7 Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru)
Cafodd eitemau 7, 8 a 9 yn eu grwpio gyda'i gilydd ar gyfer y ddadl.
Dechreuodd yr eitem am 16.39
NDM3736 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2015.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.39
NDM3737 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2015.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Rheoliadau Digartrefedd (Gweithdrefnau Adolygu) (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.39
NDM3738 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Digartrefedd (Gweithdrefn Adolygu) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2015.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10Dadl ar Wasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.48
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM3739 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) bod gwasanaeth clinigol newydd yn cael ei gyflwyno i Gymru, sef Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys, a
b) bod y gwasanaeth yn sicrhau y caiff cleifion mewn ardaloedd anghysbell a gwledig fynediad cyflym i ymgynghorydd mewn meddygaeth gofal dwys neu ofal brys.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Yn is-bwynt b), dileu 'cyflym' a rhoi 'gwell' yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
36 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod mynediad at wasanaethau brys yng Nghymru wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i israddio ysbytai, perfformiad gwasanaeth ambiwlans gwael a'r toriadau mwyaf erioed i gyllideb y GIG.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
29 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at fethiant parhaus y gwasanaeth ambiwlans i gyrraedd ei dargedau ar gyfer amseroedd ymateb a'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar wasanaethau brys yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gronfa gofal canolraddol i atal galwadau diangen ar y system gofal brys.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer 2015 y bydd Ymddiriedolaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cael cyllid gwerth £1.5 miliwn o ddirwyon LIBOR i helpu i ariannu cyfarpar newydd a hyfforddiant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
8 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am sefydlu Canolfan Gofal Brys yn Sir Drefaldwyn i ddod â gofal yn nes at ein cymunedau a lleihau'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys yn Wrecsam a'r Amwythig, oherwydd y nifer cynyddol o gleifion sy'n teithio'n bell i gael mynediad at ofal o ganlyniad i ddiffyg cynllunio cydgysylltiedig rhwng byrddau iechyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
8 |
25 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am fwy o fuddsoddi mewn ysbytai bwthyn a gofal yn y gymuned, i helpu i sicrhau gofal o ansawdd uchel yn y gymuned er mwyn lleihau'r pwysau ar wasanaethau brys.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM3739 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) bod gwasanaeth clinigol newydd yn cael ei gyflwyno i Gymru, sef Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys,
b) bod y gwasanaeth yn sicrhau y caiff cleifion mewn ardaloedd anghysbell a gwledig fynediad cyflym i ymgynghorydd mewn meddygaeth gofal dwys neu ofal brys,
c) yn gresynu at fethiant parhaus y gwasanaeth ambiwlans i gyrraedd ei dargedau ar gyfer amseroedd ymateb a'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar wasanaethau brys yng Nghymru,
d) yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gronfa gofal canolraddol i atal galwadau diangen ar y system gofal brys,
e) yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer 2015 y bydd Ymddiriedolaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cael cyllid gwerth £1.5 miliwn o ddirwyon LIBOR i helpu i ariannu cyfarpar newydd a hyfforddiant; ac
f) yn galw am fwy o fuddsoddi mewn ysbytai bwthyn a gofal yn y gymuned, i helpu i sicrhau gofal o ansawdd uchel yn y gymuned er mwyn lleihau'r pwysau ar wasanaethau brys.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
11Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.20
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 17.23
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 22 Ebrill 2015